Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (261) |
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd fod y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-11. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
3 3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a’u rhoi ar waith
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5748 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;
3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu cau;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a
5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
32 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi'r canlynol yn ei le:
Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
20 |
41 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
3. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;
4. Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.
6. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a
8. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
0 |
41 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.
2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:
a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;
b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac
c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
37 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:
a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;
b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac
c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
7 |
42 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
9 |
21 |
41 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:
a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;
b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac
c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.
2. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.
3. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:
a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;
b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac
c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
28 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.23
7 Dadl Fer - Gohiriwyd
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Mai 2015